Ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r

Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)

 

Compressed Public Health Wales logo


Mae Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r cyfle i roi sylwadau ar y ddeddfwriaeth bwysig sy’n cael ei gosod gerbron Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad. Rydym yn deall y bydd y ddeddfwriaeth yn ategu ymhellach ysgogiadau deddfwriaethol eraill ar gyfer newid. Mae’r rhain yn cynnwys Deddf Gwasanaethau Cyhoeddus a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ystyried y pedwar maes y mae’r Bil arfaethedig am eu cwmpasu:

1.   Dyletswydd Ansawdd;

  1. Dyletswydd Gonestrwydd;
  2. Creu Corff Llais y Dinesydd newydd; a

4.   Gofyniad i Ymddiriedolaethau’r GIG gael is-gadeiryddion.

1                  Sylwadau Cyffredinol

Mae’r Bil yn canolbwyntio’n fwy ar y GIG yn hytrach na gofal cymdeithasol wedi’i gyfuno. Gellid gwneud yn fwy eglur pa elfennau o’r Ddeddf sydd i’w cymhwyso’n benodol i wasanaethau’r GIG neu ofal cymdeithasol, a pha elfennau sydd i’w cymhwyso i’r ddau’n gyfartal.

Nid yw’n glir yn y Bil beth yw’r weledigaeth a’r nod gyffredinol ar gyfer ansawdd mewn iechyd a gofal yng Nghymru. Byddai’n synhwyrol i’r Bil ddiffinio a chreu ysgogiadau a sbardunau deddfwriaethol a fyddai’n galluogi gwireddu’r weledigaeth yn Cymru Iachach, ond gallai’r cysylltiad â’r cynllun hwn fod yn gryfach. Yn yr un modd, mae cyfle i ddiffinio yn y Bil beth fydd y lefel goddefiant a’r trothwy ar gyfer ansawdd a diogelwch yn GIG Cymru (a gofal cymdeithasol) mewn ffordd nad yw’n cael ei diffinio mewn dogfennau eraill ar hyn o bryd. Dylai’r Bil fod yn glir wrth ddiffinio a nodi’r bwriad, gan gynnwys y camau cysylltiedig sy’n arwain at ymagwedd ysgafn neu ymagwedd gadarn wrth ystyried safonau, trefniadau craffu a mesurau rheoleiddio. Nid yw hyn i’w gael ar hyn o bryd, ac felly mae’n aneglur sut y disgwylir i’r ysgogiadau sbarduno newid i gyflawni’r nod ar gyfer ansawdd a diogelwch.

Mewn cysylltiad â hyn, a roddwyd ystyriaeth wrth ddrafftio’r Bil i wersi a ddysgwyd gan ddeddfwrfeydd eraill? I wledydd llai, mae mesurau rheoleiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn/wedi cael eu dwyn ynghyd mewn un corff rheoleiddiol er mwyn sefydlu ffordd fwy ‘clyfar (neu ddarbodus) o reoleiddio’ sy’n esgor ar economïau sylweddol a gwybodaeth integredig am fusnes er mwyn galluogi mwy o reoleiddio yn seiliedig ar risg a chymesuredd. Yn yr un modd, mae’r dull hwn yn arwain at ddull mwy cyfannol i brofiad defnyddwyr gwasanaethau sy’n elwa ar ofal iechyd a gofal cymdeithasol ill dau. Mae’r cyfle i integreiddio Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru i esgor ar welliannau yn y gofal a’r profiad y câi pobl sy’n elwa ar ofal iechyd a gofal cymdeithasol yn rheolaidd yn gyfle wedi’i golli.

Gan fod gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithredu a gweithio o fewn partneriaethau ehangach, gellid ei hystyried yn briodol i ganlyniadau ansawdd gael eu datblygu a’u cytuno ar lefel Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gellid dadlau bod y diffyg cyd-fynd rhwng y gwahanol systemau wedi achosi rhwystrau hyd yma, ac mae rhoi mwy o bwyslais ar ddull partneriaeth yn dangos bod hwn yn gyfle i fanteisio arno.

 

2                  Ymateb i rannau penodol o’r Bil

2.1            Rhan 2: Dyletswydd Ansawdd

Y Ddyletswydd Ansawdd Bresennol

Mae dyletswydd ar gyrff y GIG i wneud trefniadau at bwrpas gwella ansawdd gofal iechyd ers 2003, o dan adran 45(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (“Deddf 2003”). Er bod Deddf 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff y GIG wneud trefniadau i fonitro a gwella ansawdd gofal iechyd, mae’n bennaf wedi’i dehongli fel gofyniad ar gyrff y GIG i sicrhau bod ganddynt drefniadau (rheoli) sicrwydd ansawdd ar waith i fonitro a gwella ansawdd y gofal iechyd a ddarperir yn hytrach na rhoi ffocws sylweddol ar y tair agwedd ar system ansawdd fel y disgrifir yn yr adolygiad seneddol: cynllunio, gwella a rheoli ansawdd i sicrhau bod ffocws ar ansawdd gwasanaethau ar lefel ehangach o’r boblogaeth.

Mae’r cynnig newydd yn y Bil i sefydlu Dyletswydd Ansawdd yn gymwys i bob un o gyrff y GIG. Mae’r Bil yn cynnwys dehongliad o “ofal iechyd” gan ei ddisgrifio fel a ganlyn:-

 

(1)        Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at ofal iechyd yn gyfeiriad at wasanaethau a ddarperir yng Nghymru o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006 ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)        atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)        hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

Nid oes diffiniad eglur o ansawdd, sy’n awgrymu bod disgwyliad i bawb y mae disgwyl iddynt gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth feddu ar yr un dehongliad. Byddai profiad blaenorol yn awgrymu nad dyma’r achos o anghenraid. Felly, byddai diffiniad yn ddefnyddiol megis diffiniad Sefydliad Meddyginiaeth UDA.

Quality is the degree to which health services for individuals and populations increase the likelihood of desired health outcomes and are consistent with current professional knowledge.”

Mae hyn ochr yn ochr â’r 6 rhinwedd y mae’r sefydliad wedi’u nodi:  

 

·         Diogel

·         Effeithiol

·         Canolbwyntio ar y claf

·         Amserol

·         Effeithlon

·         Teg

Yn Adran (1) o’r Bil, mae’n glir y bwriedir i’r ddeddfwriaeth fod yn gymwys i Iechyd Cyhoeddus Cymru, fodd bynnag bydd yn bwysig i’r canllaw ddarparu arweiniad digonol o ran sut y câi’r ddyletswydd ansawdd ei chymhwyso yng nghyd-destun iechyd y boblogaeth.

Byddai angen i’r Bil a darpariaeth canllawiau dilynol roi eglurhad er mwyn lleihau’r risg y byddai gwahanol ddehongliadau ac amrywiaeth, os disgwylir i’r system iechyd a gofal cymdeithasol gymhwyso dull ansawdd yn gyson.

Byddai hyn yn gofyn am fframwaith rheoleiddiol ategol cadarn sy’n galluogi’r system gofal iechyd a gofal cymdeithasol i ganolbwyntio ar y pethau cywir.

Hyd yma, mae’r prif ffocws ansawdd yn y gwasanaeth iechyd wedi bod ar ddatblygu systemau ar gyfer sicrwydd ansawdd o fewn gwasanaethau lleol. Mae ansawdd, fodd bynnag, yn fwy na dim ond bodloni gofynion gwasanaeth; mae’n ffordd o weithio ar draws y system i ddarparu gofal sy’n ddiogel, yn effeithiol, yn canolbwyntio ar y claf, yn amserol, yn effeithlon ac yn deg.

 

·         Bydd y ddyletswydd drosfwaol newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y GIG ymarfer eu swyddogaethau gyda’r nod o sicrhau gwelliannau yn ansawdd y gwasanaethau y maent yn eu darparu i ddefnyddwyr gwasanaeth. Bydd y ddyletswydd hon yn gymwys i bob un o’u swyddogaethau, nid y swyddogaethau clinigol yn unig.

 

·         Bydd dyletswydd ar gyrff y GIG i lunio adroddiad blynyddol yn gosod sut y maent wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd newydd. Mae’n glir bod y ddyletswydd ansawdd yn ymestyn i bob un o ddarpariaethau’r GIG. Mae adran 11 o’r Bil yn benodol yn nodi bod hyrwyddo a diogelu iechyd y cyhoedd yn cael ei gynnwys yn y diffiniad o ofal iechyd.

 

·         Mae’r Bil yn ymestyn i iechyd a gofal cymdeithasol, ond ymddengys mai prin yw’r sôn am y dull i’w ddilyn o ran gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.

 

·         Nid yw’r Bil yn egluro’r goblygiadau o beidio bodloni’r ddyletswydd.

 

·         Bydd gofyniad ar bob sefydliad GIG yng Nghymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol i ddangos sut y maent wedi perfformio wrth sicrhau gwelliant ansawdd.

Os mai bwriad y Bil yw cael iechyd a gofal cymdeithasol i sbarduno diwylliant o welliant a dysgu, mae canolbwyntio ar ofyniad i adrodd yn flynyddol yn unig yn ymddangos i beidio â bod yn uchelgeisiol iawn. I newid y system mewn unrhyw ffordd ystyrlon i gyflawni’r nod hon, mae angen newid y pwyslais wrth gynllunio ansawdd, mae angen trefniadau adrodd ar ddata a threfniadau monitro ansawdd sy’n gywir ac yn amserol, ynghyd â thrawsnewidiad llwyr o’n trefniadau rheoleiddiol.

Mae diffyg dealltwriaeth ac eglurder ynghylch Fframwaith Ansawdd ar gyfer GIG Cymru i asesu’r GIG yn ei erbyn ac i ddangos gwelliannau. Mae’n aneglur pam na fanteisiwyd ar y cyfle i wneud gwelliannau rheoleiddiol.

Er bod teitl y Bil yn cynnwys y geiriau ‘gofal cymdeithasol’, ymddengys nad yw’r ddeddfwriaeth ond yn cyfeirio at gyrff GIG a gallai hyn golli cyfleoedd i wella ansawdd y ddarpariaeth iechyd a gofal, yn enwedig yn y cyd-destun lle bo disgwyliad i gael llawer mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae llythyr ategol gan y Gweinidog Iechyd wrth gyflwyno’r Bil yn nodi y dylai’r ddyletswydd sydd i’w gosod ar bob penderfyniad a threfniant ar gyfer iechyd a chanlyniadau’r boblogaeth a gwelliannau gynnwys gwasanaethau ‘ystafell gefn’. Nid yw’n ymddangos bod y Bil ei hun yn cyfeirio at y materion hyn. O safbwynt Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Cymru a barn aelodau’r Bwrdd, mae’n bwysig i’r Bil a chanllawiau dilynol fod yn eglur ynghylch sut y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn cynnwys dyletswydd ar bob swyddogaeth iechyd y cyhoedd.

Yn ehangach ar draws iechyd y cyhoedd, iechyd a gofal cymdeithasol, er y byddem yn cefnogi canolbwyntio ar wella, mae’n bwysig rhoi rhagor o bwyslais ar wella canlyniadau iechyd a gofal iechyd i ddinasyddion/cleifion, cymunedau a’r boblogaeth. Nid yw’r elfennau ynghylch gwella iechyd y boblogaeth yn amlwg iawn yn y Bil ar y cyfan, ac mae hyn yn gyfle wedi’i golli os bwriedir i hyn fod yn ysgogiad i sicrhau y gwireddir y bwriad o wella canlyniadau iechyd ar lefel y boblogaeth, fel y nodwyd yn Cymru Iachach.

Nid oes dim cyfeiriad yn y Bil at fwriad i fynd i’r afael â bylchau presennol yn swyddogaethau rheoleiddiol trefniadau’r Arolygiaeth Iechyd nac i ailystyried y Safonau Iechyd a Gofal, nac unrhyw fframwaith safonau trosfwaol cyfatebol ar gyfer GIG Cymru. Beth fyddai disgwyl i sefydliadau asesu eu hunain yn ei erbyn? Ymddengys fod diffyg cydnabyddiaeth o bwysigrwydd yr angen i’r holl system reoleiddiol gysylltu ag ysgogiadau deddfwriaethol a sbardunau polisi er mwyn gwneud gwelliannau ar draws maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn y Bil, cynigir y bydd trefniadau adrodd blynyddol ar welliannau ansawdd cyrff y GIG, sy’n ymddangos i fod yn fesur rheoli cymharol wan gan esgor ar y cwestiwn p’un a yw adroddiad blynyddol yn cynnig sicrwydd cadarn. Felly, beth y dylid ei fesur a sut y byddai cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd hon yn cael ei mesur? Un dull posibl fyddai mabwysiadu proses adolygu cymheiriaid o fewn sefydliadau gan ddefnyddio safonau mesuradwy sydd wedi’u diffinio’n glir, ochr yn ochr â mesuryddion a dulliau eraill.

Mae risg y gallai cynnwys mwy o fesurau rheoleiddio y mae angen cydymffurfio â hwy ychwanegu mwy o faich ar sefydliadau i ddangos hyn, gan arwain at ofynion sy’n cystadlu â’i gilydd, a hynny gyda phrinder adnoddau eisoes i gyflenwi gwasanaethau a chyflawni canlyniadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl Cymru.

Mae asio arloesedd â’r dull gwelliant yn hanfodol i’r trawsnewidiad y mae angen i’r GIG a gofal cymdeithasol ei wneud, i sicrhau bod iechyd y cyhoedd, iechyd a gofal yn gynaliadwy dros y degawdau sydd i ddod. Bydd angen i unrhyw ganllawiau ategol osod pwyslais ar yr angen i gefnogi arloesedd, canfod modelau newydd ar gyfer iechyd y cyhoedd, iechyd a gofal y gellir eu profi. Mae peth risg yn anorfod wrth arloesi ac mae angen deall bod hyn yn bosibl ac y bydd angen rheoli’r risg fel rhan o’r dull o wella ansawdd.

 

2.2            Rhan 3: Dyletswydd Gonestrwydd

 

Wrth ystyried cyflwyno dyletswydd newydd ar wasanaethau iechyd, mae’n bwysig cydnabod bod gwahanol gamau eisoes wedi cael eu cymryd â’r nod o ddatblygu “diwylliant agored” yn Rheoliadau’r GIG (Cymru) 2011, ynghyd â sefydlu trefniadau adrodd gwell a phroses ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol, a hynny gan Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG a Llywodraeth Cymru.

 

Mae rheoliadau Gweithio i Wella wedi bod ar waith ers 2011 ac maent yn cwmpasu’r prosesau ar gyfer codi, ymchwilio a dysgu o bryderon. Mae’r pryderon yn cynnwys cwynion, hawliadau a digwyddiadau. At hynny, mae adolygiadau o bob marwolaeth mewn ysbytai a chyhoeddiad Datganiadau Ansawdd Blynyddol yn ofyniad ar bob sefydliad GIG Cymru.

 

Mae’r egwyddor o “fod yn agored” wrth wraidd trefniadau Gweithio i Wella, ac fe’i bwriedir i feithrin ymddiriedaeth rhwng y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG a’r sefydliadau.

 

Mae’r ddyletswydd i fod yn agored eisoes yn bodoli drwy reoliadau Gweithio i Wella, fodd bynnag mae diffyg tryloywder yn dal i fodoli’n gyffredinol mewn cysylltiad â data y mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ceisio ei newid yn y sector cyhoeddus. Mae angen sôn wrth y lefelau priodol o’r sefydliad pan fo pryderon perthnasol yn cael eu canfod yn gynnar, a hynny fel rhan o’r trefniadau llywodraethu trosfwaol. Nid yw’n glir sut y bydd y ddeddfwriaeth hon yn gwella hyn, gan roi mynediad amserol i ddata yn alluogwr allweddol ar gyfer gwella.

 

Dywedir bod y Ddyletswydd Gonestrwydd yn adeiladu ar y trefniadau Gweithio i Wella cyfredol, ac yn cryfhau’r trefniadau hynny. Y prif wahaniaeth yw bod y rheoliadau Gweithio i Wella cyfredol yn gymwys unwaith y bydd pryder wedi cael ei adrodd ac unwaith y mae’r ymchwiliad cychwynnol wedi’i gynnal ac y canfyddir bod defnyddiwr y gwasanaeth wedi dioddef niwed.

 

Yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer dyletswydd gonestrwydd, caiff yr adeg y caiff defnyddiwr gwasanaeth ei hysbysu ei ddwyn ymlaen i’r adeg pan fo corff GIG yn dod yn ymwybodol o’r tro cyntaf fod y lefel leiaf o niwed wedi’i wneud gan sbarduno’r ddyletswydd gonestrwydd. Mae’n rhaid i gyrff y GIG wneud pob ymdrech resymol i gysylltu â’r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd i’w hysbysu drwy eu ffordd ddewisol o gyfathrebu a chynnig cymorth priodol yn barhaus.

 

Yn ychwanegol at y trefniadau Gweithio i Wella cyfredol, mae disgwyliad eisoes ar y Cyngor Meddygol Cyffredinol a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ill dau i gydymffurfio â dyletswydd gonestrwydd proffesiynol. Nid yw’r Bil yn cydnabod y rhyng-ddibyniaeth â’r rheoliadau ar lefel y DU a osodir ar bob gweithiwr proffesiynol a reoleiddir, sy’n elfen o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau diogel o ansawdd uchel. Yn wir, mae’n ymddangos bod y ddyletswydd yn gymwys i sefydliadau – nid staff – felly nid yw’n glir sut y byddai staff yn cael eu diogelu pe byddent yn codi pryderon ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau.

 

Disgwylir y bydd y canllawiau ategol i’r rheoliad newydd yn cwmpasu sefyllfaoedd sy’n croesi darparwyr gwahanol a lle bo mwy nag un digwyddiad wedi digwydd i ddefnyddiwr y gwasanaeth.

 

Byddai’n ddefnyddiol pe byddai gwybodaeth ategol ynghylch cyflwyniad y Bil yn darparu dealltwriaeth a dysg o brofiadau o fannau eraill yn y DU a gwledydd eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd gonestrwydd wedi i brosesau agored a thryloyw gael eu mabwysiadu.

 

Er y byddem yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y ‘Ddyletswydd Gonestrwydd’, mae’n anochel y bydd lefel o gymhlethdod a allai godi yng nghyd-destun Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Gallai enghreifftiau o hyn fod yng nghyd-destun rhai rhaglenni sgrinio sydd wedi’u hadeiladu mewn trefniadau archwilio rheolaidd fel rhan o brosesau dysgu gan fethu cynnig trefniadau diogel, sydd wrth natur sgrinio weithiau am ganfod canlyniadau positif anghywir a chanlyniadau negatif anghywir. Mae’r ddealltwriaeth ynghylch hyn yn gymhleth ac yn fân, gellid effeithio ar y trefniadau sicrwydd ansawdd a gallai arwain at ganlyniad anfwriadol wrth i archwiliadau canser addysgol ddod i ben.

 

At hynny, os yw’r ddyletswydd gonestrwydd yn sbardun ar gyfer digwyddiadau a gaiff eu cyfrif ar y lefel isaf, byddai’r effaith ar dimau clinigol yn cynyddu’n sylweddol a gallai dynnu adnoddau clinigol oddi wrth y capasiti i ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol yn barhaus. Mewn sefyllfaoedd lle bo angen rheoli achosion wrth ddiogelu iechyd os daw digwyddiad i’r amlwg, gallai fod ar brydiau risgiau gwirioneddol i’r gymuned ehangach os disgwylid y cymhwysir safonau’n llym heb ddealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sydd wedi arwain at ddigwyddiad yn y cyd-destun hwn.

 

Pwynt mwy cyffredinol yw bod pryderon cychwynnol a godir yn aml yn gallu bod yn wahanol iawn i’r ffeithiau gwirioneddol a ganfyddir, unwaith y cwblheir ymchwiliad cychwynnol. Drwy hysbysu’r defnyddiwr gwasanaeth o’r cychwyn cyntaf, gellid dadlau ar brydiau na fyddai digon o wybodaeth ar gael i roi lefel y sicrwydd yr hoffai’r person, a gallai hynny beri pryder diangen.

 

Mae’n bwysig cydnabod, er bod y trefniadau Gweithio i Wella cyfredol wedi bod ar waith ers 2011, mae nifer o heriau yn parhau wrth gyflawni’r safonau disgwyliedig yn gyson, ac mae anawsterau wrth gyflawni profiad di-dor i ddefnyddwyr gwasanaeth pan fo digwyddiad yn croesi mwy nag un sefydliad. Canfu Adolygiad Evans (sef adolygiad o’r ffordd y mae GIG Cymru yn ymdrin â phryderon neu gwynion) fod o leiaf deg fersiwn wahanol o ddulliau ar gyfer gweithredu trefniadau Gweithio i Wella. Dangosodd yr adolygiad mor gymhleth yw’r system, a phwysleisiodd yr angen i’w symleiddio.

 

Gan ddysgu o weithrediad Gweithio i Wella, a chan gydnabod na chyflawnwyd eto’r diwylliant o ddysgu agored sy’n angenrheidiol i sbarduno gwelliant ym mhrofiad a chanlyniadau defnyddwyr gwasanaeth, mae’n bwysig cael eglurder a chysonder yng ngweithrediad unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn y maes hwn. Mae’r prosiect Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru wedi bod yn ceisio bwrw ymlaen â rhai argymhellion a wnaed yn Adolygiad Evans.

 

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod ac yn cytuno â’r dystiolaeth sy’n dangos bod defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd yn dymuno cael ymddiheuriad yn y pen draw, ynghyd ag awydd i egluro a dilyn dull agored i ddysgu o gamgymeriadau.

 

 

2.3            Rhan 4: Corff Llais y Dinesydd

 

Croesewir y cynnig i greu sefydliad cenedlaethol i gryfhau lleisiau dinasyddion, i sicrhau bod unigolion yn cael eu cefnogi â chyngor a chymorth ac i sicrhau bod profiad y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i sbarduno gwelliannau. Mae corff cenedlaethol cryfach i gyflwyno cysondeb yn y dull ledled Cymru yn rhywbeth cadarnhaol, ond dylai’r pwyslais fod ar ymgysylltu ar lefel leol.

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu ei fod yn syrthio o fewn awdurdodaeth corff o’r fath.

 

Mae angen meithrin annibyniaeth y corff newydd er mwyn sicrhau bod ymreolaeth ac i roi sicrwydd i gymunedau ei fod wir yn cynrychioli eu buddiannau gan allu dwyn gwasanaethau i gyfrif. Byddai’n bwysig bod y corff yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a chyrff GIG/gofal cymdeithasol, ac felly na châi ei gyflawni gan gorff presennol.

 

Mae angen ystyried sut y bydd corff yn cysylltu â’r sector gofal cymdeithasol yn enwedig mewn perthynas â rheoleiddio ac ymchwilio. Ar hyn o bryd, mae Aelodau Etholedig y Cyngor yn cynrychioli buddiannau’r cymunedau lleol ar gyfer awdurdodau lleol gan gynnwys gofal cymdeithasol, ac mae risg bosibl o ddyblygu neu densiwn o ran ymgysylltu yn y maes hwn.

 

Mae angen eglurder hefyd ynghylch llinellau atebolrwydd, er enghraifft p’un a fydd y corff yn adrodd i Lywodraeth Cymru ynteu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Mae’n hanfodol bod y corff newydd yn adlewyrchu’r boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu, a dylai ei strwythurau llywodraethu gael eu sefydlu i adlewyrchu hyn. Mae angen eglurder ynghylch rôl Arolygiaeth Iechyd Cymru yn y dyfodol.

 

Rydym hefyd yn nodi’r ymateb gan Gonffederasiwn GIG Cymru a byddem yn ategu’n arbennig y sylwadau a wnaeth mewn perthynas â mesurau rheoleiddio trefniadau rheoli.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyflwyniad Corff Llais y Dinesydd, fodd bynnag mae angen eglurhad pellach ynghylch sut y bydd y corff yn gweithio, ei drefniadau atebolrwydd a sut y bydd yn cysylltu â chyrff eraill yn y GIG a Llywodraeth Leol / y trydydd sector.

2.4            Rhan 5: Is-gadeiryddion i Ymddiriedolaethau’r GIG

 

Croesewir y pwerau newydd arfaethedig yn y Bil sy’n darparu i Weinidogion Cymru benodi rôl Is-gadeirydd penodol ar gyfer byrddau Ymddiriedolaethau’r GIG. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn galluogi Is-gadeiryddion i gyfrannu ymhellach at waith Ymddiriedolaethau’r GIG, cryfhau gallu eu haelodaeth annibynnol, gwella trefniadau llywodraethu a phrosesau gwneud penderfyniadau, a sicrhau cysondeb ar draws Cymru.

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y rôl hon ac o’r herwydd mae wedi penodi Is-gadeirydd, gyda thâl am 8 diwrnod y mis a chan benodi o blith yr aelodau annibynnol presennol. Ar hyn o bryd, yr Is-gadeirydd sy’n cadeirio’r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwelliant, ac o ystyried y ffocws cynyddol ar faterion craffu, goruchwylio a sicrwydd y Bwrdd, nid ydym ond yn gweld y gofynion ar y Pwyllgor hwn yn cynyddu.

 

Gan fod swydd Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cymryd 3.5 diwrnod yr wythnos (15 diwrnod y mis), byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cytuno y dylid penodi rôl Is-gadeirydd ychwanegol am 2.5 diwrnod yr wythnos (10/11 diwrnod y mis) gyda thâl yn unol â hynny. Byddai hyn hefyd yn cynyddu nifer yr aelodau annibynnol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru i 8.

 

Byddem yn pwysleisio mor bwysig ydyw i swydd benodol yr Is-gadeirydd fod yn ychwanegiad i’r nifer gyfredol o aelodau annibynnol. Byddem hefyd yn gofyn am rywfaint o hyblygrwydd i bob Ymddiriedolaeth GIG wrth ymsefydlu’r gofynion ar gyfer y rôl mewn perthynas ag anghenion sefydliadau wrth lunio’r disgrifiad swydd. Nid yw, o anghenraid, yn fuddiol i’r swydd fod â chyfrifoldebau cyson ar draws yr Ymddiriedolaethau GIG.

 

 

 

Pwyntiau cyswllt:

 

Rhiannon Beaumont-Wood

Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Gweithwyr Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd

 

Helen Bushell

Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd